Logo, company name  Description automatically generated

 

Ymateb TAC i Ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ar yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru

Medi 2022

Ynglŷn â TAC

 

1.      Mae TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Mae ein sector yn rhan hynod bwysig o’r diwydiannau creadigol, yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach, a Chaerdydd ei hun yw’r trydydd clwstwr ffilm a theledu mwyaf yn y DU[1]. Mae hyn yn darparu buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol drwy gyflenwi cynnwys creadigol. Mae tua 50 o gwmnïau yn y sector, yn amrywio o gynhyrchwyr unigol i rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r diwydiant cynhyrchu yn y DU. Maent yn cynhyrchu cynnwys i’r BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky yn ogystal â darlledwyr a phlatfformau masnachol eraill. Cwmnïau ein haelodau sy’n cynhyrchu bron yr holl gynnwys teledu a chyfryngau ar-lein gwreiddiol i’r darlledwr iaith Gymraeg S4C, ac amrywiaeth o gynyrchiadau radio i’r BBC.

 

Ymatebion i Gwestiynau’r Pwyllgor

 

Beth yw iechyd presennol gweithlu'r sector, gan gynnwys effeithiau'r pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha effaith y mae hyn wedi’i chael?

Pa mor sefydlog yw’r sector yn ariannol a pha mor addas yw’r tâl a’r amodau gweithio?

 

2.      Rydym wedi cymryd y ddau gwestiwn uchod gyda'i gilydd. Gwnaeth rhai gweithwyr llawrydd adael y sector cynhyrchu teledu o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws ac o ganlyniad i gyfnodau clo. Mae'r gweithlu sy'n weddill yn awr yn wynebu heriau pellach o ganlyniad i gostau cynyddol, sy'n effeithio ar gynaliadwyedd busnesau cynhyrchu, fel sy’n cael ei fanylu yn ein hymateb i ymchwiliad byr y Pwyllgor ar gostau cynyddol yn y diwydiant. Mae'r ymateb hwnnw'n nodi bod gweithgarwch cynhyrchu ein haelodau’n cael ei effeithio gan gostau ynni, tanwydd, bwyd, arlwyo, llogi car a llety sydd i gyd yn uwch. Tra bo’r cyfnod ôl Covid yn gweld bod rhywfaint o deithio wedi lleihau mae anghenion ffilmio yn golygu mai budd cyfyngedig yw hyn mewn rhai ardaloedd ac rydym dal angen i bobl deithio ac aros ar leoliad. Bydd y newidiadau diweddar hyn wedi cynyddu costau cynhyrchwyr ar ôl i gyllidebau ar gyfer rhaglenni gael eu cytuno, gan leihau neu ddileu'r elw ar wneud sioe.

 

3.      Mae yna brinder staff ar hyn o bryd sy’n golygu bod galw mawr am weithwyr ac mae hyn yn arwain at bobl yn gadael un cwmni i fynd i weithio i un arall i swydd well neu sy'n talu'n fwy. Mae hyn yn golygu, er bod cwmnïau eisiau meithrin talent, nid ydynt bob amser yn gweld y manteision wrth i weithwyr symud ymlaen i lefydd eraill. Felly nid yw'n hawdd i gwmnïau gynnal hyfforddiant a buddsoddi mewn pobl.

 

4.      Mae angen i weithwyr 'crefft' - adeiladwyr set, technegwyr sain ac yn y blaen - gael eu gwerthfawrogi'n iawn bob amser. Mae prinder yn y sgiliau hyn ar hyn o bryd, a ddylai weithio o blaid y gweithwyr hynny o ran gwneud galwadau uwch ond, unwaith eto, mae cyllidebau rhai darlledwyr yn cyfyngu ar y gallu i dalu cyfraddau uwch mewn rhai achosion. Nid yw ym mhŵer y cynhyrchydd yn y pen draw i godi cyfraddau'n sylweddol oni bai bod cyllidebau'n codi. Weithiau nid oes gan unigolion sy'n cael eu cyflogi y sgiliau datblygedig delfrydol, gan gyflwyno her. Mae hyn yn sicr yn ei gwneud hi'n fwy anodd i hyfforddi a phenodi mewn ffyrdd sy'n ateb y galw am weithwyr tymor hir medrus.  Mae hefyd yn creu problemau i roi proses mewn lle ar gyfer cyfleoedd cyfartal i bawb a chael gweithlu mwy amrywiol.

 

5.      Nid oes unrhyw ffordd adeiledig o gynyddu tâl gweithwyr llawrydd, oherwydd materion yn ymwneud â gostyngiad yng nghyllidebau rhaglenni. Fodd bynnag, dylai strwythurau cyflog edrych i ddarparu taliad priodol yn ôl profiad a sgiliau penodol sy'n cael eu cynnig.

 

6.      Mae angen i gyflogwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o hawliau a chyfrifoldebau – mae’n rhaid i weithwyr llawrydd fanteisio ar y rhain hefyd. Gallai fod yn bosibl darparu 'llawlyfr' i gyflogeion a gweithwyr llawrydd fel eu bod yn glir ynghylch eu hawliau.

 

7.      Mae TAC wedi cymeradwyo Datganiad Ymrwymiad Grŵp y Diwydiant - Ymgyrch Clymblaid dros Newid[2]. Mae hefyd yn cefnogi gwaith yr Elusen Ffilm a Theledu, sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth ariannol i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant, a chymorth gyda materion megis lles meddwl, gwahaniaethu ac aflonyddu, ynghyd ag offer ac adnoddau ymarferol. Gwnaeth TAC annog ei aelodau i ymateb i arolwg diweddar yr Elusen ar iechyd meddwl ac edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau.

 

8.       Mae TAC yn cefnogi’r cynllun peilot Hwylusydd Lles i gefnogi iechyd meddwl ym maes Ffilm a Theledu. Mae TAC yn aelod o'r bwrdd cynghori wrth ddatblygu rôl Hwyluswyr Lles Cymru. Cafodd y rhaglen beilot, sy'n bartneriaeth rhwng Bectu a’r arbenigwyr iechyd meddwl a lles 6ft From the Spotlight, ei lansio ym mis Awst ac mae’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae nifer o gwmnïau TAC eisoes wedi ymuno â'r cynllun ac mae TAC yn parhau i annog ei aelodau i ymrwymo i’r cynllun er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel a theg i bawb. Mae'r Hwylusydd Lles yn ei le ar gyfer cynhyrchiad Chwarel y Big House Giveaway sydd wedi ennill nifer o wobrau, a hefyd ar gyfer cyd-gynhyrchiad Gogglebocs Cymru sy’n cael ei wneud gan Chwarel a Cwmni Da.

 

Pa mor gydradd, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellir gwella hyn?

 

9.       Mae TAC yn rhannu holiadur Arolwg Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynrychiolaeth blynyddol S4C gyda'n haelodau, er mwyn helpu S4C a TAC i gael gwell dealltwriaeth o'r sector. Mae hyn hefyd yn bwydo i mewn i raglen hyfforddi TAC.  Mae strategaeth Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb S4C ar gyfer 2022-27[3] yn ymrwymo i barhau gyda'r arolwg hwn, yn ogystal â sicrhau bod amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn rhan bwysig o bartneriaeth hyfforddi TAC/S4C.

 

10.  Mae rhaglen hyfforddi TAC/S4C (mae mwy o wybodaeth wedi'i gynnwys yn ein hateb i'r cwestiwn nesaf) yn cynnwys cyrsiau ar wahanol agweddau ar amrywiaeth a chynhwysiad, gan gynnwys ffactorau hil, rhywedd, anabledd, ac economaidd-gymdeithasol, er mwyn sicrhau bod cwmnïau'n gallu bod mor gynhwysol â phosib.

 

11.  Cynhaliodd TAC weithdy ar Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant ym mis Medi er mwyn rhoi cyfle i gwmnïau ddysgu, trafod a gofyn cwestiynau ar sut i feithrin gweithleoedd cynhwysol, gan gynnwys pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd a sut i weithio trwy rwystrau.

 

12.  Ar y cyfan mae yna lawer o gynlluniau gwahanol sy'n ceisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud ag amrywiaeth a byddai TAC yn hoffi gweld cymaint o weithio mewn partneriaeth â phosibl er mwyn caniatáu i fentrau cydgysylltiedig wneud y defnydd gorau o adnoddau.

 

Pa mor ddigonol yw’r cyfleoedd hyfforddi a sgiliau? A oes bylchau, a sut dylid eu llenwi?

 

13.  Mae TAC yn partneru gyda S4C i ddarparu rhaglen hyfforddi, ac ers 2019 mae TAC wedi darparu 76 cwrs, gyda 1,159 o gofrestriadau ar eu cyfer.  Sefydlwyd y rhaglen hyfforddi hon i gydnabod yr angen i sicrhau y gall cwmnïau gyflawni eu cyfrifoldebau fel busnesau yn ogystal â cheisio eu tyfu, ynghyd â sicrhau bod gan eu gweithluoedd y sgiliau priodol. Nid ydym yn codi tâl ar weithwyr llawrydd ar hyn o bryd i fynychu'r hyfforddiant hwn. 

 

14.  Mae'n darparu hyfforddiant pwrpasol i ddiwallu anghenion cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru yn benodol. Cytunwyd a llofnodwyd y Cytundeb Hyfforddi S4C/TAC yn gynharach yn y flwyddyn am gyfnod o 4 blynedd. Rydym felly yn edrych ymlaen at barhau â'r cydweithio gyda S4C er mwyn dilyn eu blaenoriaethau hyfforddi yn ogystal â blaenoriaethau TAC ei hun ble rydym yn anfon arolwg blynyddol at ein haelodau ar anghenion a gofynion hyfforddiant.

 

15.  Mae TAC ac eraill yn gweld bod diffyg amlwg yn gyffredinol yn y ddarpariaeth hyfforddiant iaith Gymraeg i bobl sy'n gweithio yn y sector cyfryngau Cymraeg.

 

Beth fu effaith cymorth gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, ac a oes angen cymorth pellach?

 

16.  Gallai Llywodraeth Cymru edrych ar beth arall y gallai ei wneud i weithio gyda'r diwydiant i sefydlu llwybr gyrfa cliriach fel y gall y rhai sy'n dechrau cynhyrchu teledu fod yn gwbl ymwybodol o'r opsiynau sy'n agored iddynt ddatblygu a thyfu'n broffesiynol.

 

17.  Nodwn y penodiadau i'r Awdurdod Darlledu Cysgodol newydd a byddwn yn rhoi barn ar ei gylch gwaith a'i flaenoriaethau. Ffactorau allweddol i'r sector yw na ddylai unrhyw newidiadau i strwythur a rheoleiddio darlledu yng Nghymru gael unrhyw effeithiau negyddol ar fuddsoddiad gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus na darlledwyr masnachol o'r DU a thramor.

 

18.  Mae Cymru Greadigol newydd gyhoeddi ei strategaeth Sgiliau a'i Chronfa Sgiliau. Mae TAC yn croesawu mentrau o'r fath i helpu i dyfu'r sylfaen sgiliau yn y sector ac yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Chymru Greadigol.

 

19.  Credwn byddai’n fuddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn astudio’r ffynonellau arian sydd ar gael i’r diwydiannau creadigol gan gymharu gydag asiantaethau creadigol y cenhedloedd eraill er mwyn sicrhau eu bod yn gystadleuol.

 

20.  Gwnaethom groesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu’r Cynllun Ailddechrau Cynhyrchu yn ystod cyfnodau clo COVID-19, oedd yn caniatáu i gwmnïau gael eu hamddiffyn mewn achosion o golledion a achoswyd gan gynyrchiadau yn cael eu canslo. Mae'r cynllun yma bellach wedi dod i ben ond mae COVID-19 yn parhau i fod yn broblem sy'n achosi rhywfaint o golli dyddiau staff.

 

21.  Mae TAC wedi bod mewn trafodaethau gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU, ac yn gobeithio cynnal sesiwn i helpu ein haelodau i ddeall pa gyfleoedd allai fod ar gael gyda chymorth gan yr Adran Masnach Ryngwladol, a sut gall cwmnïau chwarae rhan fwy yn y farchnad ryngwladol.

 

22.  Rydym hefyd wedi bod yn cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i adolygu'r rhyddhad treth ar deledu Pen Uchel, sydd â throthwy cymhwyster gofynnol sy’n o leiaf £1m yr awr ddarlledu o gostau cynhyrchu cymwys.

 

23.  O ystyried mai £250k-£300k yr awr yw costau cynhyrchu pen uchel cyfartalog S4C, nid yw rhyddhad treth HETV yn hygyrch ar gyfer bron pob un o gynyrchiadau S4C.  Gwnaethom fanylu ar y mater hwn yn ddiweddar yn ein hymateb i Bwyllgor y Trysorlys yn Nhŷ’r Cyffredin, sydd ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i ryddhad trethi.[4]

 

24.  Rydym hefyd wedi gweld terfynu cyllid i gronfeydd cystadladwy y DU, y Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc a Chronfa Cynnwys Sain, ac roedd y ddau ohonynt yn hwb i gynhyrchu drwy’r iaith Gymraeg. Byddem yn croesawu Cymru Greadigol a lle bo hynny'n berthnasol yr Awdurdod Cysgodol i edrych ar fersiynau cenedlaethol Cymreig o'r rhaglenni pwysig hyn os na cheir cyllid ar lefel y DU.

 

25.  Yn olaf, rydym yn croesawu cyflwyno cronfa cynnwys newydd gan BBC Cymru Wales a Media.Cymru i gefnogi cwmnïau cynhyrchu gyda datblygu cynnwys sy'n cael ei yrru gan arloesedd[5].

 



[1] https://www.cardiff.ac.uk/news/view/2510538-cardiff-has-third-largest-film-and-tv-cluster-in-uk,-study-shows

 

[2] https://www.tac.cymru/newyddion/tac-yn-cefnogi-datganiad-o-ymrwymiad-yn-erbyn-ymddygiad-amhriodol-mewn-teledu/

 

[3] https://dlo6cycw1kmbs.cloudfront.net/media/media_assets/Adlewyrchu_Cymru_StrategaethCYM2022-2027.pdf

 

[4] http://www.tac.cymru/wp-content/uploads/2022/09/TAC-response-to-Treasury-Select-Committee-inquiry-into-Tax-Reliefs.pdf

 

[5] https://www.bbc.com/mediacentre/2022/bbc-cymru-wales-and-media-cymru-announce-new-content-fund